Llwyddiant i gôr yr ysgol yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Llanymddyfri heddiw. Cipio’r 3ydd safle allan o 15 côr! Campus blantos🙌🏼🙌🏼🙌🏼🙌🏼
#C
ânYnOfer
#balch
🥉🎶
Enillwyd y gystadleuaeth “Creu Ap” gan Nile a’i ffrind gorau Tristan💙. Mewn seremoni ar faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, casglwyd Tlws Aled a Diane Davies gan Nile a chwaer Tristan, Branwen
#balch
#chwerwfelys
Llongyfarchiadau mawr i ti Betrys ar ennill y wobr gyntaf yn yr
@eisteddfod
Genedlaethol yng nghystadleuaeth Llefaru unigol dan 12 oed! Gwych 👏🏻👏🏻👏🏻👏🏻
#balch
Gwasanaeth gadael arbennig, crysau t newydd, pitsa yn y goedlan a phabell i ddathlu! Diolch am y rhodd o goeden i gofio am Tristan💙 ac amdanoch chi. Rydych chi wedi bod yn griw arbennig😊 Colled ni fydd ennil eich hysgolion uwchradd - pob lwc x
Ymddeoliad hir a hapus i chi Mrs Spate yn dilyn pedwar degawd o wasnaeth yn Ysgol Y Dderi. Diolch i'r Clwb Coginio am baratoi te dathlu. Wishing Mrs Spate a long and happy retirement following four decades of service at Ysgol y Dderi.
Llongyfarchiadau i’r criw yma am ennill y gystadleuaeth Dawns Werin i flwyddyn 5 a 6 yn Eisteddfod Ddawns yr Urdd, Rhanbarth Ceredigion🙌🏼🙌🏼🙌🏼 Diolch am hyfforddi Mr Llŷr🤗
Bant â ni ar yr awyren i Riga! Prif ddinas Latfia 🇱🇻 Saith o ddisgyblion blwyddyn 6 yn mynychu cyfarfod menter a busnes Erasmus+
#BritishCouncil
#M
@kers
Eisteddfod ysgol llwyddianus arall eleni. Llongyfarchiadau i bawb
@siarterFfaW
#Eisteddfod
Another successful school eisteddfod. Congratulations to everyone!
Perfformiad gwych gan dîm rygbi tag y merched heddiw yng Ngŵyl Chwaraeon Genedlaethol yr Urdd.
Gwaith tîm gwych ac ymrwymiad llwyr. Colli allan o chwarae yn y ffeinal o un cais! Balchder llwyr, cydradd 3ydd dros Gymru gyfan.
@UrddCeredigion
@chwaraeonyrurdd
🏉👏🤩🏴
Perfformiadau gwych gan y ddau dîm heddiw eto. Llongyfarchiadau i’r bechgyn am gyrraedd rownd yr wyth olaf a chanlyniad ffantastig i’r merched ar ennill yr ail safle dros Geredigion 🙌👏⚽️🥈🎉
@UrddCeredigion
#balch
#unigolioniachhyderus
Llongyfarchiadau i Betrys Llwyd Dafydd, Abermeurig ar ennill y wobr 1af ac i Elin Williams, Tregaron ar ddod yn 3ydd yn y Llefaru dan 12 oed.
@eisteddfod
@ysgol_y_dderi
@YsgolHR
Mae Silian yn estyn croeso mawr i’r
@eisteddfod
genedlaethol! Plant Ysgol Y Dderi wedi mwynhau creu’r murlun dan arweiniad Sophie ac Eryl
@HenEglwysSilian
Diolch am y cyfle!🎨🖼🖌🏴
@CSCeredigion
Llongyfarchiadau aruthrol i dîm pêl-rwyd yr ysgol am ennill cystadleuaeth Urdd Cylch Llanbed heddiw
@UrddCeredigion
#gorauchwaraecydchwarae
A huge congratulations to the netball team for winning the Lampeter Area Urdd competition today 🏀🥇
Twrnamaint Pêl droed Sêr Dewi ac Ysgol Henry Richard ⚽️
Perfformiadau gwych gan y 3 tîm heno. Un tîm bechgyn yn cyrraedd y rownd gynderfynol a llongyfarchiadau masif i’r tîm merched ar ennill y twrnamaint ⚽️👏🤩🏆
#balch
#gorauchwaraecydchwarae
Bardd buddugol Eisteddfod Ysgol y Dderi, 2024 yw Nia 🙌🏼🙌🏼🙌🏼
2il Anna, 3ydd Freya ac Ellie
Diolch i Rhodri a Lowri Pugh am y gadair hyfryd❤️🪑🎺📝🏴🗡️🕊️
#AOesHeddwch
Diolch i bopty Mark Lane am y croeso cynnes prynhawn 'ma. Disgyblion blwyddyn 2 wedi mwynhau gwneud bara a chael cacen siocled i dê 🍞🍩🥤
#poptymarklane
#pobibara
Da iawn chi am gystadlu yn y Ddawns Werin Bl 6 ac iau yn Eisteddfod yr Urdd yn Ninbych heddiw. Joiwch gweddill y diwrnod ar y maes! Diolch Mr Llŷr am hyfforddi 🏴🎹🎵
Llond neuadd yn yr ysgol yn cefnogi ein noson o Gawl a Chân, diolch i’r staff a’r rhieni am y lluniaeth blasus ac am weini. Diolch arbennig i’r plant am yr adloniant ac am rannu pigion yr Eisteddfod Ysgol, Cylch a’r Sir. Chi’n sêr ⭐️👏🏻🎼🎶🥣🧀🥖
#Cymreictod
#Cymuned
#TeuluYDderi