Gwasanaeth Tywydd lleol i Gymru. | Local Weather Service for Wales.
Anfonwch eich lluniau tywydd at: | Send your weather photos to: tywydds4c
@bbc
.co.uk
Un gair i ddisgrifio yfory- gaeafol. Cawodydd o eirlaw ac ambell gawod o eira yn bosib ar dir isel. Gwyntoedd main gogleddol felly'n oer iawn ac yn rhewi'n galed dros nos.
Dyma'r holl fanylion a hefyd golwg ar dywydd gweddill yr wythnos...
@S4C
#s4ctywydd
#metoffice
Gwnewch yn fawr o'r tywydd yfory, ansefydlog erbyn canol yr wythnos. Dyma Megan yn fyw or stafell newyddion, am y tro cyntaf o BBC Sgwar Canolog.
@S4C
#S4CTywydd
@NewyddionS4C
🎅🎉Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i'm holl ddilynwyr 🎅🎉
Cadwch yn ddiogel ac edrychwn 'mlaen i'r flwyddyn newydd wrth i'r dydd ymestyn pob cam ceiliog!
Sylwch ar y gwawrio ar machlud yn ystod y dyddiau nesa yn anghyffredin o oren. Mi fydd hynny wrth i fwg a llwch ein cyrraedd 5000 o filltiroedd i ffwrdd o dannau gwyllt
#California
.
Tywydd sefydlog a chynnes i Gymru. Megan sydd â'r manylion...
@S4C
@metoffice
#wildfires
Tywydd tawel yma yng Nghyrmu heddiw wrth i ni gofio a nodi diwedd yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop. Ond sut fydd y 24 awr nesa? Dyma Megan gyda'r manylion.
@S4C
#S4CTywydd
#VEDay
Bwa'r tresi aur enwog yng ngerddi Bodnant wedi blodeuo bron i wythnos yn gynharach nag arfer. Bwa hiraf a hynaf ym Mhrydain, mae'n debyg mai'r tywydd sych a braf a chynnes yn Ebrill ac yn Mai sy'n gyfrifol am yr arddangosfa gynnar.
Gyda lefelau llygredd wedi disgyn yn rhyfeddol o gyflym yn sgil COVID-19, a'i dyma'r amser i drawsnewid ein dinasoedd i lefydd gwyrdd ac iachach ar gyfer y dyfodol? Steff sydd wedi bod allan i weld beth sydd yn bosib
Paratowch am ddiwrnod gwlyb dydd Mercher! Mae'n debyg mai gweddillion corwynt Laura, a wnaeth ddod â thywydd eithafol i rannau o'r UD yn ddiweddar, fydd yn gyfrifol am y glaw a'r gwyntoedd cryf ym Mhrydain. Cymerwch ofal a chadwch lygad allan ar gyfer unrhyw rybuddion tywydd.
Porthmadog oedd y lle cynhesaf yn y DU am y 3ydd diwrnod yn olynol, ond pam?
Diweddaraf yma gan Steff ac mae 'na newid yn y tywydd i rai erbyn pnawn Sul ...
Diolch i Aled Hall am y llun arbennig yma. Cofiwch, mae 'na gyfle i chi weld eich gwaith ar y sgrin ar
@S4C
yn ein bwletinau tywydd, felly ewch ati ac anfonwch y lluniau atom ni.
Tywydd braf a sych dros y dyddiau nesaf. 🌞 Tywydd hydrefol a gwlyb erbyn ganol yr wythnos gyda'r tywydd dan ddylanwad gwasgedd isel. ☂ Tanwen sydd gyda'r manylion...
Llun Aled Hall yn llun perffaith i gynnwys yn ein rhagolygon hwyr ar
@S4C
Arhoswch adref, cadwch yn ddiogel, cadwch yn iach a chadwch mewn cysylltiad. I ni yn wir gwerthfawrogi eich cyfraniadau dyddiol!
Bore da. Storm Ciara yn ei hanterth erbyn hyn ac yn ddiwrnod gwlyb a gwyntog iawn yng Nghymru. Rhybuddion melyn ag oren mewn grym! Cymerwch ofal, byddwch yn wyliadwrus iawn a gwyliwch ein rhagolygon ar
@S4C
am y diweddaraf. Chris sydd wrthi heddiw yn y stiwdio.
Hen Gymru fynyddig, paradwys y bardd,
Pob dyffryn, pob clogwyn, i'm golwg sydd hardd;
Trwy deimlad gwladgarol, mor swynol yw si,
Ei nentydd, afonydd, i fi.
☀️😍🏴
O Zürich i Rydychen, Caergybi, Caerdydd ac Aberystwyth, mae wedi bod yn bythefnos prysur i
@DafWyn90
a Steff yn ffilmio rhaglen gyffrous ar dywydd eithafol Cymru 2018 a Newid Hinsawdd.
#NewidHinsawddNewidByd
ar eich sgrîn ar y 3ydd o Fawrth.
@S4C
Nifer o wylwyr ein gwasanaeth dywydd ar
@S4C
yn mwynhau ac yn gwerthfawrogi ymadroddion, dywediadau a barddoniaeth sy'n ymwneud â'r tywydd. Felly be am hon am Fis Chwefror?! Diolch i bawb am eich ymateb a'ch cyfraniadau yn gyson.
Mae wedi bod yn ddiwrnod cymylog heddiw, ond ddim yn rhy oer... ☁☁☁
🌡Y tymereddau ar hyn o bryd:
Aberdaugleddau: 19.4 C
Brychdyn: 18.2 C
Rhaeadr Gwy: 20.4 C
Cofiwch fod 'na gyfle i ddangos eich gwaith ffotograffiaeth ar
@S4C
Cysylltwch â'r adran dywydd yn y ffyrdd arferol gyda'ch lluniau tywydd. Diolch i bawb sy'n cyfrannu.
Diolch i Aled Hall ac i eraill am eich lluniau gwych heddiw. Rydym yn trio ein gorau i ddefnyddio eich lluniau yn ddyddiol ar ein bwletinau ar
@S4C
....gyda chyfle i weld eich gwaith a'ch enw ar y sgrin!
Mi fydd 2020 yn gorffen ar nodyn aeafol. Mae Megan yn edrych ymlaen at dywydd yr wythnos, ac oes, ar hyn o bryd, mae 'na eira yn y rhagolygon.
@S4C
#S4CTywydd
🌨Nifer o ardaloedd yn enwedig tua’r gogledd-ddwyrain wedi gweld eira yn ystod yr oriau mân a bore ‘ma. Dyma’r olygfa yn ardal y Groes ger Dinbych ar hyn o bryd.
#eira
#snow
#uksnow
@UKSnowUpdates
@metoffice
(📷Tudur Davies)
Gwaethaf o'r eira wedi pasio, ond mae'r fath o dymereddau sydd i'w ddisgwyl heno yn anghyffredin I ni yma yng Nghymru. Gwyliwch hwn gan Steff I weld mwy:
Llun gwych gan Andrew Chittock o harbwr Aberaeron heddiw. Cofiwch i anfon eich lluniau at yr adran dywydd yn y ffyrdd arferol a fe nai fy ngorau glas i ddefnyddio gymaint ohonyn nhw â phosib yn ein bwletinau dyddiol ar
@S4C
Nifer o hen ddywediadau ac ymadroddion ynglŷn ag eira yn Ionawr. 'Maeth Ionawr' yw un a 'Calch y dyn tlawd' yn un arall. Llun gwych o'r eira ar fynyddoedd y gogledd gan Gareth Southworth. Diolch i bawb am eich cyfraniadau fel arfer.
Gyda'r gwyntoedd yn chwythu o'r gogledd ddwyrain, mae'n mynd i oeri ar y penwythnos - gyda'r risg o gawodydd gaeafol nos Sadwrn / dydd Sul - lapiwch yn gynnes! ❄🌨🌧
Eto, mae 'na luniau arbennig wedi cyrraedd yr adran dywydd heddiw. Diolch i bawb am gyfrannu a pheidiwch â bod ofn i gyfrannu lluniau ag ati unrhyw bryd. Wedi'r cyfan, eich gwasanaeth tywydd CHI yw hon!
Wythnos yn ôl fe gafwyd 21ºC yng Nghymru ond neithiwr a bore 'ma mae 'na olygfeydd gaeafol iawn ar hyd a lled y wlad. 📉
📍Aberystwyth: Tom Kendall
📍 Llanuwchllyn; Carwyn Siddall
Beth am eich ardal chi?
#S4CTywydd
Dyma Megan gyda rhagolygon y 5 niwrnod nesa. 🌈
Am weld enw eich tref/ pentref ar y map yfory? Nodwch y lleoliad yn y bocs sylwadau o dan y neges yma ⬇️🏴
@S4C
Pasg Hapus! 🐣💐 Mae wedi bod yn fwy cymylog heddiw, ac mae wythnos nesaf yn edrych yn fwy ansefydlog. Dyma Alex gyda mwy o fanylion am y tywydd stormus sydd i ddod. 🌦⛈🌬⚠
Mae tywydd Penwythnos y Pasg yn ddelfrydol a mwy o dywydd sych a chynnes ar y ffordd yfory! Am weld enw eich pentref / tref ar y map yfory? Gadewch neges o dan y fideo yma...
@S4C
@metoffice
#s4ctywydd
#metoffice
Mwy o eira sydd ar y ffordd yn enwedig yn y gogledd. Amodau gyrru gwael ac oedi mawr yn bosib. Glaw trwm yn y de heddiw. Tanwen sydd gyda'r manylion...
Cawodydd gaeafol drwy'r prynhawn. 2-5cm o eira yn bosib, hyd at 10cm ar dir uchel. ⚠ Rhybudd Melyn o rew ag eira tan ddydd Gwener. ⚠ Tanwen sydd gyda'r manylion...
Golwg ar dywydd yr wythnos, ac er yn troi'n ansefydlog i rai dydd Mawrth, mi fydd hi'n wythnos digon pleserus arall i'r mwyafrif.
Dyma fanylion yr wythnos i chi gan Steff
@S4C
Prif fwletin y dydd gan Chris ar
@S4C
ac yn ogystal â sôn am storm Dennis a'r rhybuddion, golwg ar dywydd yr wythnos i ddod. Nid y newyddion gorau yn anffodus!
Yn dilyn tywydd garw heddiw, mi fydd 'na fwy o law yfroy ond wedi hynny blas o'r gwanwyn i orffen yr wythnos a dros y Penwythnos! Dyma Megan gyda'r manylion.
#S4CTywydd
@S4C
Ar ran yr adran dywydd diolch i BAWB sydd wedi cyfrannu yn gyson gyda lluniau a dywediadau ag ati drwy gydol y flwyddyn. Cofiwch i gysylltu â'r adran unrhyw bryd gan ein bod yn gwerthfawrogi'n fawr eich cyfraniad a'ch ymroddiad. Blwyddyn newydd dda!
Lleuad lawn cyntaf y flwyddyn heno sy'n cael i'w adnabod fel lleuad y blaidd neu'r "Wolf moon".
Mi fydd hi'n glir hefyd i'r mwyafrif felly mi ddylai fod yn ddigon o sioe!🌕
(📸Aled Hall)
Prif fwletin y dydd, ac yn fwletin estynedig, gyda Chris, ac yn edrych ar wythnos ansefydlog iawn eto. Diolch i bawb am eich cyfraniadau..lluniau ag ati a diolch i bawb am gysylltu â ni trwy Twitter a Facebook ac ar e-bost.