I bawb sy' mor ara deg â fi! Deffrwch - Ymaelodwch - Cefnogwch. Fel basa Mam wedi 'ddeud - 'Heddiw dim Fory'.👍
Dwi newydd ymaelodi â
@YesCymru
, yr ymgyrch dros Annibyniaeth i Gymru. Ymunwch â fi a dros 17,000 o aelodau eraill via
@YesCymru
Be goblyn oedd o pwynt o ddanfon yr holl amcan raddfeydd i mewn i gael eu potsian a'u newid? Mae athrawon wedi gweithio'n rhy galed i gael eu bychanu a'u trin fel hyn - heb sôn am y disgyblion druan. Rhowch eich ffydd yn y rheiny sy'n nabod eu disgyblion ora.
Meddwl 'swn i'n rhannu rhai om hoff luniau o Mei hefo nghyd drydarwyr. Y cynyrchiadau a aeth yn angof am nad ydan ni'n cofnodi hanner digon o hanes ein theatr a'r cyfryngau yma yng Nghymru. Hanes? Pa hanes?😢
Won't be watching
@BBCBreakfast
for the coming weeks - need to know what's going on in Wales, thank you. No excuse for this kind of service. Bye 🖐️🖐️🖐️
Dudwch betha positif wrth blant a phobol ifanc - dudwch jôc - canwch - dawnsiwch - dudwch fydd bob dim yn OK - dudwch mai dros dro fydd hyn - gwenwch - chwerthwch - byddwch lawen😂🤣🤡😸😻🕺💃👋👌👍😄😀
Will presenters from
@BBCOlympics
be so good as to mention that ALL British medals at this year's Winter Games are going to Scotland?🏴 A proud Welshman these Scots have given us so much joy to watch so please give smaller countries the credit that it's due.🏴 Llongyfarchiadau!🏴
Would be good if all new owners of Welsh properties could explain to us why they feel the need to get rid of old Welsh names. Please, do tell - we are good listeners. 👂🦻🙏
Newyddion MOR drist! Wedi gwaeledd hir, colli person a wnaeth gyfraniad enfawr i'r bwyd Cymraeg a Chymreig - yn enwedig i fyd Cerdd Dant a Chanu Gwerin. Cwsg yn dawel Leah (Owen). Esiteddfodwraig o'r siort ora. Welwn ni'm o'i thebyg eto. 💔🖤🤍
Just had a 'ping' moment! If the Royal Family have moved out to their second home then why can't Buckingham Palace become a hospital to save lives? What a bloody good idea! 👌🖐️👏
Mae'r barbwr ar agor - ond does gen i'm gwallt! Sryd Fawr Bangor - erioed wedi ei gweld hi'n edrych mor wag a thrist. Dim byd ond siopau gwag ac ambell siop elusen - a neb i wario'n y rheiny chwaith.🥹😢😮💨
Mae'n cymryd rhyw ddeg eiliad ar ôl deffro bob bore iddi wawrio arna i'n bod ni mewn cyfnod cwbwl newydd a dieithr inni i gyd. Ond mae'r adar bach yn canu'n uwch y dyddiau yma. Tybed ydyn nhw'n mwynhau'r llonydd newydd? Byd natur yn cael cyfle i anadlu falle?
My annwyl and dearest Santa,
I've found, among my presanta
A Prince in a sack
So I'm sending him back
Can I have annibyniaeth tro nesa?
(Ffanciw mowr x x x)
Waaaaagh! Wedi cyrraedd fy 70! Dal yn teimlo ac yn actio fel mod i'n 7! Oes 'na rywun ishio dŵad allan i chwara? 🚴♀️🤹♂️🤸♂️🏓🏸🤼⛹️♂️🍻🥂🍷🎂⛄️🕺💃🏃🧎🧙🎅🧑🎤👴🫂👍😻🎃🤩🥳😊🤣😘
Dwi 'di dallt yn iawn? Cheith pobl Penrhosgarnedd ddim mynd i Tesco Bangor i siopa ond gewch chi ddod i Gymru o Loegr fel liciwch chi? 🤔🤔🤔 Lle ma' synnwyr mewn peth fel 'na?
Pob dymuniad da i'r holl athrawon sy' wedi bod yn paratoi ar gyfer y dychwelyd mawr bore fory - ac i'r disgyblion sy'n mynd i gael gweld rhai o'u ffrindiau ryw ben o'r wythnos sydd o'n blaenau. Cadwch yn saff, cadwch eich pellter a daliwch ati!
Nadolig Llawen i'r holl drydarwyr Cymraeg sy'n rhan o'r gymuned bwysig yma ar hwn yn fan hyn. Edrych ymlaen am eich ffraethineb a'ch ffyddlondeb i'r Gymraeg y 2022! Ymlaen mae Canaan ac annibyniaeth!🎄🎄🎄🏴🏴🏴
Os na ches di lwyfan
a neb di gweld dy botensial
cofia bod chips ar ffor adra
yn blasu'n well na medal
a be 'di beirniaid beth bynnag
ond dau neu dri sy'n geshio
a heb wbod yn iawn 'u hunan
be goblyn mae nhw ishio
Anela'n uwch, ac yn uwch rhen ddyn
Y peth pwysica di plesio dy hun
Pwy yn 'i iawn bwyll sy'n teimlo fod ganddo'r hawl i ddeud fod Dolig wedi ganslo? Ffoniwn ffrindia, trydarwn, ebostiwn, cysylltwn a 'Dymunwn Nadolig Llawen' - Cyfyngu - ia - Canslo - Na. Dathlwn . . . mi ddown drw hyn eto.
Falch o weld y disgyblion yn dychwelyd i'w hysgolion. Edrych 'mlaen i groesawu'n rhai ninna cyn bo hir. Tan hynny dyma englyn sgwennis i iddyn nhw.
Gwag yw desgiau dy ysgol - heb ei chôr
Heb ei cherdd na’i charol,
Heb wên na thân yn y bol,
Heb sŵn y rhai absennol.
Methu gwylio'r newyddion 'di mynd. Cymaint o alar a wylofain, teimlo'n ddiwerth. Y byd yn mynd a'i ben iddo. Cymaint o atgasedd ym mhob cornel o'r byd. Sut yn y byd mawr 'da ni'n codi o hyn ac adfer ffydd mewn dynoliaeth? Casau swnio mor negyddol ond methu dianc oddiwrtho heno
Braf cael croesawu'r dosbarth dan 12 a'r dosbarth dan 15 heno yn
@CorGlanaethwy
Edrych ymlaen i weld y gweddill ohonoch yn ystod yr wythnos! 🎈🎈🎈🎭🎭🎭🙏🙏🙏🤞🤞🤞
Teimlo'n drist yn cloi drws Glanaethwy heno. Oherwydd y brys chawson ni ddim cyfle i ffarwelio efo pawb ond cofiwch gadw mewn cysylltiad. Byddwn yn eich cadw yn y pictiwr ar sut i gadw'n greadigol a phan ddaw'r golau gwyrdd💚inni ail gydio'n yr awenau a symud ymlaen fe rown wybod
Pen blwydd yn tŷ ni heddiw!
'Mae nghariad i'n Fenws,
mae 'nghariad i'n fain,
mae 'nghariad i'n dlysach
na blodau y drain.
Fy nghariad yw'r lana
a'r wyna'n y sir.
Nid canmol yr ydwyf
ond dwedyd y gwir.'
Penblwydd hapus, Rhi!
Newydd gael fy mhigiad 👍 yn Ysbyty Enfys 🌈 Brifo dim! A mae o AM ddim. Diolch i GIG - gwasanaeth effeithiol a chyfeillgar. Peidiwch â'i wrthod pan gewch chi'r cyfle, da chi! Ewch yn llu! Dathlu heno!🍻
'Di-ling! Di-ling!
Arian yn brin.
Pêl-droed yn cael popeth
a'r theatr - dim!
Llond stadiwm o gefnogwyr meddw'n cofleidio'n wallgo a'r theatrau'n wag. Lle mae cyfiawnder?⚽️⚽️⚽️🤬🤬🤬🎭🎭🎭
Ai fi sy'n meddwl neu ydi gwledydd â merched wrth y llyw wedi trin y sefyllfa erchyll yma'n well na'r gweddill? Seland Newydd a'r Almaen i weld yn gneud yn arbennig o dda.
Newydd gyrraedd Rhoshirwaun. Baneri, arwyddion, bunting ar hyd y ffordd o Fangor. Diolch Pen Llŷn! Llithfaen sy'n ennill! Licio'r arwydd "Un wythnos, un iaith". Cytunaf! 100%
Oes yna rywun wedi trafod/edrych i mewn i'r posibilrwydd o gael canu mewn grŵpiau bychan gan cadw pellter a gwisgo masg? Mi fydd yn dymor anodd heb roi cyfle i bobl gyd-ganu. Mae'n therapi pwysig ac mae'n mynd i fod yn aeaf hir . . .
If you're missing going to the theatre, why not join the sensational
@CorGlanaethwy
on
@S4C
tonight at 8pm as they reflect and perform some of the most influential pieces in the choir's history in a new series by
@rondomedia
, Miwisg fy Mywyd. English sub available
Sgwn i be neith o heddiw
a'i gefn yn erbyn y wal?
Sgwn i be ddudith o heddiw,
ag ynta wedi 'ddal?
Sgwn i lle'r eith o wedyn
a'i enw 'di lusgo drw'r mwd?
Os geith o be mae o'n haeddu
fy unig ymateb fydd - 'good'!
Allan â fo! Ma'r lembo o'i go!
Dolig Llawen i bawb ond y fo!🤬🤬🤬
Wedi cael fy ail frechiad heddiw. Brifo dim - teimlo dim gwahanol - ond MOR ddiolchgar i pawb yn Ysbyty'r Enfys, Bangor🌈🌈🌈Daliwch ati - pawb tu cefn i chi.
Gwrando ar y newyddion a danfon pob dymuniad da a chefnogaeth i'r athrawon sy'n brwydro'n galed i gadw addysg ein plant, ein ŵyrion a'n ŵyresau i fynd. 'Da chi'n gneud gwaith anhygoel - daliwch i gredu a daliwch ati!
Pan fydd hyn i gyd drosodd, be 'di'r peth cynta newch chi? (Ar wahân i fynd i weld eich teulu a'ch ffrindiau wrth gwrs)
Fi: Mynd i lawr i'r Stryd Fawr a gwenu ar BAWB! 😁😁😁 Dangos dy ddannedd a gwena! 😁😁😁
Diolch bob nyrs o Lwchwr i Lŷn,
rhowch godiad teilwng i bob un!
O'r Alban i Gernyw, o Fôn i Fynwy
O Dŷ Ddewi draw i Lanelwy.
Be sy' haru chi wleidyddion cybyddlyd,
â'n gweithwyr pwysicaf pam bod mor gintachlyd?
Gnewch hynny rŵan y cnafon gwael,
Heddiw, dim fory, byddwch yn hael!
Di cael llwyth o anrhegion hyfryd! Diolch i BAWB am y negeseuon, anrhegion, dymuniadau a chardiau. Methu credu'r caredigrwydd. Di cael hwn gan y côr a diolch i feirdd Clwb Cynganeddu Caernarfon am eu hawen! Gan Rhian ges i'r gacan!🎂 'Dwn 'im lle cafodd hi afael ar y rhif 0. 🤔
Nes i'm prynu papur toilet flwyddyn a hanner yn ôl, na pasta, na blawd. Dwi ddim am lenwi nghar efo petrol nes bydda i angen gneud na llenwi rhewgell efo tyrcwn a sbrowts chwaith - i be? Ystyriwch adar yr awyr a digon i'r diwrnod ei drafferth ei hun. Peidwch â gwrando arnyn nhw!
Pob lwc i BOB côr sy'n cystadlu heno yn
@cor_cymru
. Ewch amdani, mwynhewch a byddwch wych! Oddiwrth pawb yn
@CorGlanaethwy
🎼🎼🎼🎹🎹🎹🇺🇦🇺🇦🇺🇦🏴🏴🏴
Aeth twysog i mweld â Jamaica,
gan ddweud fod yn rhaid 'ddo gyfadda
ei fod erbyn hyn
'di dalld nad dyn gwyn
sy berchen un fodfedd o'r lle 'na.
Felly tybed pan ddaw o i Gymru
y dudith run peth radag hynny,
ac wedi'r ymrafael
yn gollwng o'i afael
fel na fydd o arni'n teyrnasu?
Yn dychwelyd i'r llwyfan fel actor am y tro cyntaf ers dros dri deng mlynedd heno. Diolch i Aled J. Williams,
@betsantbc
a
@theatrbaracaws
am roi eu ffydd yndda i. 🎭🎭🎭 Dwi'm yn meddwl y bydd o mor rhwydd â chofio sut mae reidio beic ond - cawn weld. Nerfus iawn ar hyn o bryd!
Dos i dy ragbrawf ar amser.
Os w't ti'n hwyr, yna coda!
Ac os w't ti yna ar amser,
Paid cuddio tu ôl i'r Pagoda.
Mae'r beirniaid yn gwbod be ma' nhw ishio,
Paid a gwrando ar y rhai sy'n deud 'paid â rhishio'.
Ac os bydda i yn beirniadu, cofia,
Gei di farc extra am fynd yn gynta!
Blwyddyn Newydd Dda pan ddaw hi. Daliwch i drydar yn Gymraeg - daliwch i gredu - a daliwch i obeithio. 'Da chi'n cofio'r mantra am 'haul ar fryn' oedd i'w glywed yn feunyddiol ryw ddwy flynedd yn ôl. Wel! Mae o ar ei ffordd . . . gaddo!
Boed nyrs neu bostmon truan,
Dyn neu ddynes tân,
I bawb ar linell biced
Sy' wedi blino'n lân,
Jesd ishio deud ein bod-ni
yn llwyr gefnogi'ch streic,
A thri gair bach i'r cabinét
A Rishi 'Ar dy feic!'
Dowch laen gyfeillion,
rhy gynnar i stopio,
Achos rŵan hyn
Mae'n amser clapio!
Mae Boris 'di trefnu parti
A 'da ni 'gyd wedi'n gwadd,
Mae'r ceiliog wedi canu,
A'r llo pasgedig 'di 'ladd.
Does dim rhaid i neb gadw pellter,
na gwisgo mwgwd - i be?
does dim hyd 'noed rhaid golchi dwylo,
gan fod Peilat 'di gneud yn ein lle.
‘Di Cefin ddim fath’a fo’i hun
dio’m yn siŵr os ‘di’n fora dy Llun
dy Mawrth neu ddy Merchar
dydd Iau neu ddy Gwenar,
na fedar o’m deud p’run ‘di p’run.😱🥴🤔
Dymuniadau gorau i holl ymgeiswyr
@Plaid_Cymru
fory ym mhob rhanbarth o Fôn i Fynwy. Diolch unwaith eto am ddod â lliw i'r etholiad. Digon tawel fu hi gan bob plaid arall yma'n y gorllewin. Amdani!🏴🏴🏴🌈🌈🌈🤞🤞🤞
'Fe rown wên i'r frenhinaeth' . . . dim math o ddiddordeb a does 'na'm byd arall ar y newyddion. Ma'r byd mewn llanast a 'da ni'n poeni am rhein - i be? Tydyn nhw ddim ishio'r sylw. Rhowch lonydd iddyn nhw bendith tad.
#llondbol
Wedi bod am 🚲 i G'narfon. Llai fyth o 🚙ar y lôn heddiw. Nefoedd i 🚲wyr ac 🐶🐱🐭🐹🦊🐤🐦🦋🐛🐝🐞🕷️🦗🐜🦉feiliaid!
Dim draenog marw ar y ffordd
na ffesant yn y ffosydd,
Dim wiwer lwyd na wiwer goch
yn gelain hyd y lonydd,
a chanu'r adar yn y coed
yn llawer uwch na fu erioed!💚
Rywun arall methu cysgu? Petha'n troi rownd a rownd yn y'ch pen chi? Fel arfar fyddai'n poeni mod i'n colli cwsg a finna ishio codi 'neud dwrnod o waith. Ond does dim angen poeni am hynny rŵan achos fydd dim rhaid imi fynd i'r gwaith! Felly dwi'n poeni rŵan am na sgin i'm gwaith!
Newyddion hynod o drist am Aled Glynne - yn meddwl am y teulu i gyd. Dathlwn ei fywyd a'i gyfraniad. Dyn hynaws a chefnogol bob amser. Cymru ar ei cholled heno - cwsg mewn hedd.
Newydd ddychwelyd o Fanceinion. Gwefr cael gweld theatr fyw unwaith eto! ('Jamie' yn y Lowry) Siom o weld un o fy hoff adeiladau yn y ddinas yn mynd a'i ben iddo (Debenhams) + fy hoff siop (Paperchase) wedi cau! Ah wel - fedrwn ni ddim cael bob dim yn yr hen fyd 'ma.
Sing a song you WANT to sing,
Do what YOU want to do.
No one has to sing a song
that others keep telling you to . . .
Canwch be 'da CHI ishio'i ganu,
Gneud be 'da CHI ishio 'neud.
Does dim rhaid i NEB ganu
os mai rhywun arall sy'n deud.
God save our mother tongue . . . 🏴🏴🏴
Y golygfeydd diweddara o Lundain yn erchyll. Lle ddiawl eith petha nesa? Methu credu'r hyn mae Keir Starmer newydd orfod 'i wynebu. Fel dudodd Saunders yn y ddrama Siwan: 'Os yn dyrfa y safwn pan ddaw Dydd Brawd, druain ohonom, Uffern fydd ein priod eisteddfod.'😱😱😱
Newydd glywed fod yr hen Madge Hughes wedi'n gadael ni. Colled enfawr i'r byd llefaru a'r Orsedd. Cyfranodd gymaint i'r eisteddfodau mawr a bach drwy ei bywyd. Aelod triw o barti llefaru Glanaethwy am flynyddoedd - hyfforddwraig a ffrind. Coffa da amdani.😢
@eisteddfod
Os na chawsoch docyn, mae'r criw yma'n fwy na pharod i fynd ar daith! Ail Drydarwch os hoffech weld y sioe, ac os na chawsoch docyn! Awn i'r mynydd! Cymru, Lloegr a Llanrwst! + Pontio, Feniw Cymru a Chanolfan y Mileniwm! Rywle sydd ishio sioe Gymraeg, wreiddiol newydd sbon danlli
Toedd Victoria Wood yn brilliant? Wrthi'n gwylio hen raglen deyrnged iddi - y jôcs yn dal yn ddigri a DIM yn gas at NEB. Talent prin - dal i chwerthin a gwenu bob-yn-ail-pheidio. Mwy!👏👏👏
Dear
@BorisJohnson
- We are embarrassed our government is doing SO little to help the Ukrainian people. Dear, fellow Ukrainians🇺🇦 - we would love to be able to open doors and arms to welcome you here in the hillsides of 🏴. Westminster - get moving! 🇺🇦🏴🇺🇦🏴🇺🇦🏴
Dal methu dod dros y🥈🥈🥈'na! Be ma' hynna'n ddysgu inni? Bod ail a thrydydd yn fethiant? Dwi'n dal yn falch o ddod yn ail sawl gwaith yn Llangollen, y genedlaethol ac ar 'Last Choir Standing'. Fel un sy' 'di hyfforddi cenedlaethau i gystadlu pa siampl ma hyn yn roi i neb?
Mai'n ddy Sadwn heddiw,dwi ffansi gneud 'bath sbesial
Ella â i lawr i dre i siopa nonesensial
Dwi'm angan im byd newydd,dim gwario fydd y nôd
Jesd picio mewn ac allan i ddeud mod i 'di bod
Tydi hi'n gynhyrfus gneud petha newydd sbon?
Y siop fach nonesensial, dim dianc rhag hon!
Never, EVER have I seen such bad loosers as last night's England team and some of their supporters.The booing, taking medals off, leaving before the presentation, those racist comments on social media and the scenes in Trefalgar square. And you call this 'sport'?
#mynaddia
O'r diwedd!😊Mae gneud jig sô yn debyg i drio gneud englyn (y pwyslais ar y trio!🤔😂)
At y clown y down ein dau bob bore
yn barod am oriau’r
Her hon o ddyfalbarháu
 mudan, mân dameidiau.
'Paul in a Clown Suit' - Pablo Picaso - 1924
Be 'di TGAU ond papur,
Be mae nhw'n brofi go iawn?
Os na ches di dy radda
Nid rheiny sy'n mesur dawn
Llongyfarchiadau os ces di'r
Hyn roeddat am ei gael,
Ond os na ches di'th ddymuniad
ac na fu'r arholwyr yn hael.
Nid gradd sydd wir yn profi'th werth,
Cyfod a dos o nerth i nerth!
Jesd ishio rhannu nghacan efo chi nes i i briodas Mirain, fy merch, â Jak union chwe mis yn ôl. Colli 'nheulu ac am neud un union 'run fath i'r parti aduniad pan fydd hyn i gyd drosodd. Ddim yn or-hoff o luniau bwyd ar hwn fel arfer ond maddeuwch yr eithriad.💚💚💚